Fire Cadet Instructor / HYFFORDDWR CADETIAID TÂN

Fire Cadets is South Wales Fire and Rescue Service's flagship youth activity for individuals aged 13 - 16 years of age. The programme offers young people a unique insight into working within an emergency service. We offer fun and challenging inclusive opportunities for young people and work to develop personal and social skills through activities which promote self-discipline, teamwork and citizenship. The programme offers the opportunity to gain awards and work towards achieving a recognised qualification.

SWFRS currently host 12 Fire Cadet units. As a Fire Cadet instructor, you will be required to support and mentor young people in developing their skills, knowledge and personal development to enable them to become effective role models in the community and progress positively onto education, employment, or further training. Fire Cadet instructors support the Fire Cadets through a range of learning styles, including paperwork linked to the qualification and a range of basic firefighter drill ground activities. Throughout your time in this role, you will be supported by a Unit Manager and the opportunity for relevant training and qualifications.

As a Fire Cadet Instructor, there is the opportunity to work at various stations, on different evenings. The programme runs in line with the school academic year with the added option of participating in a range of outdoor activities, charitable events, camps, competitions and social trips during school holidays and weekends.

We are currently only recruiting for Fire Cadet Instructors at: Barry, Merthyr and Cwmbran.

___

Cadetiaid Tân yw gweithgaredd ieuenctid blaenllaw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer unigolion 13 - 16 oed. Mae'r rhaglen yn cynnig cipolwg unigryw ar weithio o fewn gwasanaeth brys i bobl ifanc. Rydym yn cynnig cyfleoedd cynhwysol hwyliog a heriol i bobl ifanc ac yn gweithio i ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol trwy weithgareddau sy’n hybu hunanddisgyblaeth, gwaith tîm a dinasyddiaeth. Mae'r rhaglen yn cynnig y cyfle i ennill gwobrau a gweithio tuag at ennill cymhwyster cydnabyddedig.

Ar hyn o bryd mae GTADC yn cynnal 12 uned Cadetiaid Tân. Fel hyfforddwr Cadetiaid Tân, bydd gofyn i chi gefnogi a mentora pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u datblygiad personol i’w galluogi i ddod yn fodelau rôl effeithiol yn y gymuned a symud ymlaen yn gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant pellach.

Mae hyfforddwyr Cadetiaid Tân yn cefnogi’r Cadetiaid Tân trwy amrywiaeth o ddulliau dysgu, gan gynnwys gwaith papur sy’n gysylltiedig â’r cymhwyster ac ystod o weithgareddau maes ymarfer sylfaenol i ddiffoddwyr tân. Yn ystod eich amser yn y rôl hon, byddwch yn cael eich cefnogi gan Reolwr Uned a'r cyfle ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau perthnasol.

Fel Hyfforddwr Cadetiaid Tân, mae cyfle i weithio mewn gwahanol orsafoedd, ar nosweithiau gwahanol. Mae’r rhaglen yn cydfynd â’r flwyddyn academaidd ysgol gyda’r opsiwn ychwanegol o gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, digwyddiadau elusennol, gwersylloedd, cystadlaethau a theithiau cymdeithasol yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Hyfforddwyr Cadetiaid Tân yn: Y Barri, Merthyr a Cwmbrân.

South Wales Fire and Rescue Service £14.27 per hour Llantrisant